
Fel rhieni ein hunain, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly, bydd eich plentyn yn derbyn yr addysg a’r gofal gorau yn Cylch Meithrin Nefyn. Cymraeg yw iaith ein Cylch Meithrin ac rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn o bob cefndir, nid oes rhaid i chi na’ch plentyn allu siarad Cymraeg i fynychu’r cylch. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gref rydym wedi ei feithrin gyda rhieni a gofalwyr dros y blynyddoedd. Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae’r profiadau a’r gweithgareddau a gynigir yn seiliedig ar ddysgu trwy chwarae, gan ddilyn y Cwricwlwm i Gymru dan arweiniad ein staff cymwys, cyfeillgar a brwdfrydig. Rydym yn cynnig sesiwn gofal Meithrin Mwy i blant Meithrin yn ogystal a phlant Cylch Meithrin sydd eisiau aros drwy’r dydd.
Gweithgareddau tu mewn:
Twb tywod
Crefft
Rhifedd
Paentio / darlunio
Darllen
Canu a dawnsio
Chwarae rhydd
Toes
Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion pum llwybr datblygu y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer plant cyn ysgol:
perthyn
cyfathrebu
archwilio
datblygiad corfforol
lles
Dyma ychydig o esiamplau o’r math o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal yn y Cylch:
Gweithgareddau tu allan:
• Twb dŵr a thywod
• Tŷ bach twt
• Cegin fwd
• Garddio
• Beicio
• Gemau pêl
• Llythrennedd Corfforol
Sgiliau cymdeithasol:
• Hybu annibyniaeth
• Cyd-weithio â phlant eraill
• Iechyd a lles
• Gofal personol
• Amrywiaeth ddiwylliannol



Oriau / Ffioedd
Sesiwn Cylch:
9.00am - 11.00am = £7.00
Sesiwn Meithrin Mwy:
11:00am - 3.00pm = £12.00
Sesiwn trwy'r dydd:
9.00am - 3.00pm = £19.00
Bydd y Cylch ar agor yn ystod y tymor ysgol yn unig.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed).
Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth
-
Dwynwen - Arweinydd
Anti Dwynwen ydw i ac ‘rwy’n byw yn Nefyn gyda Bryn, fy ngŵr a’n tri o blant, Guto, Siwan a Nel – heb anghofio Ned y ci. ‘Rwy’n eithaf newydd i faes gofal plant, ac yn gweithio mewn Cylch Meithrin ers 7 mlynedd. Cyn hynna’n roeddwn yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol mewn Coleg Addysg Bellach. Tra’n gweithio fel Arweinydd, ‘rwyf wedi cwblhau cwrs Diploma Lefel 3 a Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Rheoli). Byddaf yn mynychu sawl cwrs sydd yn cael eu cynnig i ni fel ymarferwyr gofal plant, megis Makaton, Elklan yn ogystal â hyfforddiant diweddaraf ar ADY, Datblygu Plant a Galluogi Oedolion.
Rwy’n hoff o gerdded y ci ar draeth Nefyn ac o gwmpas llwybrau Mynydd Nefyn. Rwyf wrth fy modd mynd dramor gyda’r teulu, pan ‘da ni’n cael y cyfle. Byddem yn mwynhau dod at ein gilydd fel teulu estynedig i ddathlu penblwyddi, cawn fwynhau bwyd cartref a gemau i ddiddanu. Mae teulu’n bwysig iawn i mi. Rwyf wrth fy modd yn garddio ac yn cael boddhad o dyfu blodau o hadau. Mae garddio yn ffordd i mi ymlacio, coelioch neu beidio!
Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda phlant oed cyn-ysgol. Mae gallu gweld eu datblygiad yn bleser a temlaf falchder wrth sylweddoli fy mod yn gwneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn.
-
Bethan - Cynorthwyydd
Helo, Anti Bethan ydw i. ‘Rwy’n byw yn Nefyn gyda fy ngŵr Iwan a tri o blant, Hana, Tomi a Megan. ‘Rwyf wedi gweithio gyda plant ers gadael y coleg gyda merit mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Es ymlaen i weithio yn Meithrinfa St Joseph’s yng Nghaernarfon ac yna ymlaen wedyn i Gamau Cyntaf.
Ar ôl genedigaeth fy ail plentyn, penderfynais aros adra am ychydig flynyddoedd i fagu fy nheulu bach.
Dechreuais fy swydd yn Cylch Meithrin Nefyn yn 2016. Ers hynny, rwyf wedi llwyddo i wneud sawl cwrs, gan gynnwys NVQ Lefel 3. Rwyf wedi mwynhau cwblhau cwrs Dyfarniad Lefel 3 NCFE mewn Pontio i Waith Chwarae yn ogystal â chyrsiau cyfoes fel Makaton, Datblygiad Plentyn a Galluogi Oedolion. Mae’r cyrsiau yma wedi fy helpu i gael y sgiliau mwyaf perthnasol a chyfoes. Wrth drosglwyddo’r wybodaeth a’i ddefnyddio i’r plant yn ein gofal, mae’n rhoi pleser pur i mi i’w gweld yn datblygu.
I gario ymlaen gyda fy natblygiad personol, buaswn yn hoffi cwblhau cwrs ‘Ysgol Goedwig’. ‘Dwi’n siwr bysa’r plant yn cael gymaint o fudd o hyn. Byddent yn datblygu hyder a hunan-barch trwy brofiadau ymarferol mewn lleoliad naturiol.
-
Karen - Cynorthwyydd
Helo, fy enw i yw Karen ac rwy'n dod o Swydd Stafford yn wreiddiol a symudais i Nefyn yn 1995. Rwyf bellach yn byw ym Morfa Nefyn gyda fy ngŵr a dau o fy nhri o blant, sydd wedi tyfu i fyny. Mae gen i ddwy wyres sy'n byw yn agos gyda fy merch hynaf a'i phartner. Rwy'n gofalu amdanynt yn rheolaidd er mwyn i'w rhieni allu gweithio eu patrwm sifft afreolaidd.
Cyn dechrau gweithio yn y cylch, roeddwn yn aros gartref pan oedd fy mhlant yn fach. Dechreuais weithio yng Nghylch Meithrin Nefyn ar ddiwedd 2004. Ers hynny rwyf wedi cyflawni NVQ Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg Blynyddoedd Cynnar a Diploma Lefel 5 City & Guilds mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal Plant , Dysgu a Datblygu (Rheoli). Rwy'n mynychu cyrsiau yn ôl yr angen i hyrwyddo fy natblygiad proffesiynol parhaus.
Pan fydd gennyf amser, rwy'n hoffi darllen a gwnïo croes-bwyth. Ar hyn o bryd, mae gen i sawl prosiect croes-bwyth ar y gweill, felly dwi ddim yn diflasu yn edrych ar yr un un drwy'r amser. Rwyf hefyd yn hoffi mynd allan ar fy mwrdd padlo i gael rhywfaint o amser tawel ar fy mhen fy hun.
-
Natalie - Cynorthwyydd
Helo Anti Nat ydw i :) Dwi’n byw yn Nefyn gyda fy ngŵr Gwyn sy'n drydanwr, a’n plant Grace, Olivia ac Isabelle. Mae fy mhlant yn fy nghadw i'n hynod o brysur! Os nad ydw i’n dacsi Mam i wahanol ddigwyddiadau, gallwch ddod o hyd i mi wrth y cwrt pêl-rwyd neu’r stiwdio ddawns yn eu cefnogi nhw. Rydym wrth ein bodd yn teithio ac yn edrych ymlaen at ein gwyliau eleni. Pan ddaw’r cyfle, rwy’n mwynhau dal i fyny gyda fy ffrindiau efo paned yn yr ardd.
Rwyf wedi bod yn y rôl hon ers dros 10 mlynedd a gyda cymhwyster NVQ lefel 3. Rwy’n ymfalchïo bod yn ymarferydd cymwys cyfoes sydd wedi cwblhau hyfforddiant yn ddiweddar mewn datblygiad plant a galluogi oedolion i chwarae. Rydw i bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu cyfleoedd ddysgu i’r plant. Edrychaf ymlaen at gofrestru ar y cwrs ‘transition to playwork’ yn y dyfodol.
Cyn hyn, bûm yn gweithio yn y sector anabledd dysgu yn y GIG ond yn teimlo bod gweithio yn y feithrinfa yn fwy addas i'n teulu ni. Rwy’n gymwys yn Makaton ac yn mwynhau cefnogi’r plant i ddatblygu eu dealltwriaeth o arwyddo. Un o fy hoff bethau i'w wneud yw dweud jôcs a gwneud i'r plant wenu. Does dim byd dwi’n ei garu fwy na chlywed y plant yn chwerthin ac yn disgleirio yn ein gofal.
-
Nia - Cynorthwyydd
Anti Nia ydw i ac rwyf yn wreiddiol o Nefyn ac ers sawl blwyddyn bellach rwyf wedi mudo o’r ardal ac wedi priodi a magu teulu. Rwyf erbyn hyn yn byw yn Llithfaen gyda fy ngŵr Siôn a dwy o genod Beca ac Ela.
Ers gadael Coleg Meirion Dwyfor rwyf wedi bod yn gweithio men ysgolion cynradd fel cymhorthydd dosbarth yna yn Meithrinfa Dwylo Da ym Mhenygroes fel gweinyddes feithrin ac is-rheolydd.
Astudiais gwrs NVQ Lefel 3 mewn ‘Blynyddoedd Cynnar a Datblygiad’ yng Nholeg Meirion Dwyfor ac wedi llwyddo i gael cymhwyster NVQ Lefel 4 tra yn gweithio yn Dwylo Da.
Rwyf wedi bod yn gweithio yn Cylch Meithrin Nefyn ers dwy flynadd ac yn ei fwynhau yn fawr iawn.
Tu allan i’r gwaith rwyf yn mwynhau cerdded a gweithgareddau tu allan. Fy hoff lefydd i fynd yw top Nant Gwrtheyrn, Mynydd Gwaith a Tre’r Ceiri (mynyddoedd Yr Eifl), yn enwedig ar ddiwrnod braf!
Diddordebau eraill yw gwaith celf a gwylio sioeau cerdd a chomedi.
Cysylltwch a ni.
Ebost: cylchmeithrinnefyn@gmail.com
Cysylltwch a ni am ragor o wybodaeth neu i gofrestru eich plentyn.
Lleoliad
Cylch Meithrin Nefyn,
Y Caban,
Ysgol Gynradd Nefyn,
Ffordd Dewi Sant,
Nefyn,
Pwllheli,
Gwynedd,
LL53 6EA